English icon English
WG positive 40mm-2

RHAGFLAS DAN EMBARGO: 00.01 Dydd Gwener 31 Gorffennaf

EMBARGOED TRAILER: 00.01 Friday 31 July

Bydd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn datgan heddiw (dydd Gwener 31 Gorffennaf) y newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru gan ei gwneud yn haws i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod yn yr awyr agored.

O ddydd Llun (Awst 3) ymlaen, bydd hyd at 30 o bobl yn cael cyfarfod yn yr awyr agored ac ni fydd plant dan 11 oed yn gorfod cadw 2m o bellter oddi wrth ei gilydd nac oddi wrth oedolion mwyach, yn unol â’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am gyfraddau trosglwyddo is ymhlith y grŵp oedran hwn.

Bydd tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn cael ailagor dan do o ddydd Llun ymlaen, a hefyd lawntiau bowlio dan do, tai ocsiwn a neuaddau bingo.

Bydd Prif Weinidog Cymru yn diolch i fusnesau am weithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflwyno mesurau newydd i leihau lledaeniad y coronafeirws ond bydd hefyd yn rhybuddio y bydd camau’n cael eu cymryd yn erbyn y rhai sy’n anwybyddu’r mesurau sydd wedi’u sefydlu er mwyn cadw Cymru’n ddiogel.

Nodiadau i olygyddion

You can report tonight without an embargo:

First Minister Mark Drakeford will tomorrow (Friday 31 July) confirm pubs, bars, cafes and restaurants will be able to re-open indoors from Monday 3 August in Wales.

He will also announce further changes following the sixth review of the coronavirus regulations.

Bydd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn cadarnhau yfory (dydd Gwener 31 Gorffennaf) y bydd tafarndai, bariau, caffis a bwytai yn cael ailagor dan do o ddydd Llun 3 Awst ymlaen yng Nghymru. Bydd hefyd yn cyhoeddi newidiadau pellach yn dilyn y chweched adolygiad o reoliadau’r coronafeirws.