English icon English

Y Gweinidog Addysg yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer mynd yn ôl i’r ysgol ym mis Medi

Education Minister announces ‘back to school’ plans for September

Cefnogi’r penderfyniad gyda £29m i recriwtio, adfer a chodi safonau

Yr wythnos hon, argymhellodd Grŵp Cynghori Technegol Cymru, sy’n darparu cyngor gwyddonol a thechnegol i’r Llywodraeth yn ystod argyfyngau, wrth y Gweinidog y dylai ysgolion “gynllunio i agor ym mis Medi gyda 100% o’r disgyblion yn bresennol ar safleoedd ysgolion, yn amodol ar ostyngiad parhaus a chyson ym mhresenoldeb COVID-19 yn y gymuned.”

Bydd y papur, sy'n cynnwys y cyngor, yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Cyhoeddodd y Gweinidog y canlynol:  

  • Bydd ysgolion yn dychwelyd i gapasiti llawn gydag elfen gyfyngedig yn unig o gadw pellter cymdeithasol oddi mewn i grwpiau cyswllt.
    • Wrth weithredu’n llawn, dylai grŵp cyswllt gynnwys tua 30 o blant. Bydd rhywfaint o gymysgu uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng plant mewn gwahanol grwpiau cyswllt hefyd yn amhosibl ei osgoi, fel ar gludiant, wrth dderbyn addysg arbenigol neu oherwydd cyfyngiadau staffio.
    • Dylai pob ysgol barhau i fod yn “Ddiogel Rhag Covid” – wedi cynnal asesiadau risg a lliniaru unrhyw risg gyda chyfuniad o fesurau rheoli fel hylendid dwylo ac arwynebau, systemau un ffordd ac ati.
    • Os yw gwybodaeth rybuddio gynnar yn dangos digwyddiad neu achosion lleol, dylai’r ysgolion cyfagos weithredu mesurau cyfyngu priodol.       
    • Bydd cyflenwad o becynnau profi cartref ar gael ym mhob ysgol.

     

Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd tymor yr hydref yn dechrau ar Fedi 1af ac y dylai ysgolion sy’n gallu croesawu’r disgyblion i gyd o ddechrau’r tymor wneud hynny.

Bydd cyfnod o hyblygrwydd i gydnabod y bydd ysgolion eisiau canolbwyntio ar rai grwpiau blwyddyn â blaenoriaeth, fel y rhai sydd newydd ddechrau mewn ysgolion uwchradd, y rhai sy’n sefyll arholiadau yr haf nesaf neu’r rhai sydd yn y dosbarthiadau derbyn. Bydd hyn hefyd yn rhoi amser, hyd at bythefnos, ar gyfer unrhyw gynllunio ac ad-drefnu. Bydd canllawiau pellach yn dilyn ar addysg feithrin, oherwydd y cymhlethdodau unigryw a'r goblygiadau pellach i ddysgwyr iau.

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y bydd canllawiau gweithredol a dysgu diwygiedig yn cael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf. Mae swyddogion addysg y Llywodraeth yn cael cefnogaeth gyda’r gwaith hwn gan awdurdodau lleol, penaethiaid, swyddogion iechyd cyhoeddus, undebau athrawon ac ymarferwyr addysg. Amlinellodd y Gweinidog y cynlluniau oriau yn unig ar ôl cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £29m ar gael i ‘recriwtio, adfer a chodi safonau’ yn ysgolion Cymru fel ymateb i effaith y pandemig, sydd i’w theimlo o hyd.

Wrth siarad ym mriff dyddiol Llywodraeth Cymru heddiw, bydd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn dweud:

“Rydyn ni’n gwybod bod Covid-19 wedi achosi difrod difrifol, yn enwedig i’n pobl ifanc.

“Rwy’ wedi dweud drwy gydol y pandemig mai’r flaenoriaeth yw darparu cymaint â phosib o addysg gan amharu cyn lleied â phosib ar ein pobl ifanc.

“Mae pob penderfyniad wedi bod yn seiliedig ar yr wybodaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf. Diolch i ymagwedd ofalus Cymru, mae presenoldeb Covid yn ein cymunedau yn dirywio. Gan ddisgwyl y bydd hyn yn parhau, y cyngor rwy’ wedi ei dderbyn yw y gall ysgolion baratoi i agor ym is Medi gyda’r holl ddisgyblion yn bresennol.”

Wrth gyfeirio at y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd, dywedodd y Gweinidog:

“"Byddwn yn recriwtio, yn adfer ac yn parhau i godi safonau.

"Gyda'r cyllid hwn, byddwn yn recriwtio'r hyn sy’n cyfateb i 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr addysgu drwy gydol y flwyddyn ysgol nesaf.

"Byddwn yn targedu cymorth ychwanegol at Flynyddoedd 11, 12 a 13, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oed.

"Gallai'r pecyn cymorth, a ddarperir ar lefel ysgol, gynnwys cymorth hyfforddi ychwanegol, rhaglenni dysgu personol ac amser ac adnoddau ychwanegol ar gyfer disgyblion y blynyddoedd sy'n sefyll arholiadau.

“Ni ddylem fyth ostwng ein disgwyliadau ar gyfer unrhyw un o'n pobl ifanc, ni waeth beth yw eu cefndir.

“Gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i godi safonau ar gyfer pawb, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau bod gennym ni system sy’n ffynhonnell o falchder a hyder ymhlith y cyhoedd.”                                                                    

 

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda cholegau addysg bellach i’w helpu i ddychwelyd ym mis Medi. Bydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi maes o law.
  • Cyfanswm cost y ddarpariaeth fydd £28.869m. Bydd £16.840m ar gael ym mlwyddyn ariannol 2020/21, o Gronfa Ymateb Refeniw Covid19 Llywodraeth Cymru, a £12.029m yn 2021/22.
  • Athrawon newydd gymhwyso ac athrawon llanw fydd yn cael mwyafrif y swyddi. Mae disgwyl y bydd tua 800 o athrawon newydd gymhwyso ym mis Medi a thua 800 o staff llanw sy’n gweithio ar hyn o bryd yng Nghymru.