English icon English
Jukebox Collective 2-2

Sicrhau dyfodol sector diwylliant Cymru

Securing the future of Wales’ culture sector

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £53 miliwn i helpu sector diwylliant amrywiol Cymru i ddelio gydag effeithiau pandemig y coronafeirws, yn ôl cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru ac mae “contract diwylliannol” yn rhan greiddiol ohoni er mwyn helpu’r sector i ddod allan o’r pandemig yn gryfach nag erioed. 

Mae’r cyhoeddiad heddiw’n ychwanegol at y pecyn portffolio gwerth £18 miliwn a ddarparwyd ym mis Ebrill, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chwaraeon Cymru. 

Bydd y Gronfa Cydnerthedd Diwylliannol yn helpu i warchod sefydliadau, unigolion a swyddi yn y sector diwylliant, gan gynnwys: 

  • Theatrau
  • Orielau
  • Lleoliadau cerddoriaeth, busnesau ac unigolion
  • Safleoedd treftadaeth
  • Amgueddfeydd lleol, llyfrgelloedd a gwasanaethau archif
  • Digwyddiadau a gwyliau
  • Sinemâu annibynnol

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas:

“Rydym wedi gwrando a gweithio gyda’n partneriaid ar draws y sectorau diwylliannol a chreadigol i roi’r ail becyn hwn o gefnogaeth at ei gilydd. Hoffwn gofnodi ein diolchiadau am weithio’n adeiladol gyda ni i sicrhau’r ail becyn hwn o gymorth. 

“Rydym yn cydnabod yr heriau digynsail a gaiff y pandemig ar fywyd Cymru ac yn cymeradwyo y cadernid a’r creadigrwydd a welwyd.”   

 “Bydd y pecyn hwn yn helpu i gefnogi nifer yn y sectorau wrth ymateb i bwysau a heriau’r coronafeirws, ac mae hefyd yn gyfle unigryw i sicrhau newid fesul cam – byddwn yn datblygu contract diwylliannol fel y gall y sector ailddechrau yn gryfach.   

“Byddai hyn yn sicrhau bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymrwymo i sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio at bwrpas cymdeithasol positif, wedi’i dargedu, sef y peth iawn i’w wneud.” 

Meddai Rebecca Evans y Gweinidog Cyllid:

“Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos iawn â’r sector i ddeall yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu a lefel y cymorth y maent ei angen.  Mae’r pecyn a gyhoeddwyd gennym heddiw yn dangos ein bod wedi gwrando ar y sector ac wedi rhoi’r cymorth y mae ei angen i oroesi a ffynnu wedi’r pandemig.” 

Meddai Nick Capaldi, prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae cyhoeddi’r cronfeydd ychwanegol hyn yn arwydd o gymorth y mae’r celfyddydau yng Nghymru wedi bod yn aros amdano. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn gydnabyddiaeth a groesawir o bwysigrwydd y celfyddydau i lesiant y genedl ac i economi greadigol y wlad. 

Gyda chynifer o sefydliadau celfyddydol yn wynebu ansolfedd yn fuan, a gweithwyr llawrydd yn ei chael yn anodd i weld pryd fyddant yn derbyn eu cyflog nesaf, mae’r cronfeydd hyn yn golygu bod llai o berygl i’r sector creadigol ddadfeilio.    

“Mae’r cronfeydd hyn yn cynnig cyfle i artistiaid a sefydliadau celfyddydol sefydlu eu gweithgareddau a’u hannog i ymrwymo i’r ‘contract diwylliannol’ newydd.  Nid yw’n ddigon i warchod ac amddiffyn – mae’n rhaid inni greu dyfodol newydd ble y mae gweithgareddau diwylliannol yn cyrraedd yn ehangach ac yn dyfnach ar draws bywyd cyhoeddus yng Nghymru.” 

Bydd y contract diwylliannol yn ychwanegu at gontract economaidd presennol Llywodraeth Cymru am waith a thâl teg a chynaliadwyedd, gan fynd i’r afael â meysydd fel y canlynol:

  • Amrywiaeth ar fyrddau
  • Staff sydd wedi’u cadw i gefnogi mentrau ehangach
  • Presgripsiynu cymdeithasol
  • Mentrau iechyd a chelfyddydol
  • Cynaliadwyedd amgylcheddol

Nodiadau i olygyddion

Guidance for applicants will be made available on the Welsh Government website.

Official statistics demonstrate the scale of the economic value and important role of the cultural and arts sectors in Wales. The latest figures published before the Covid-19 pandemic, show that the combined Gross Value Added of the creative industries and cultural sectors in Wales was £1.5bn (£1,018m and £493m, respectively). In addition, these sectors employ approximately 85,000 people in Wales, of which 38,000 (45%) are self-employed.