English icon English
APPROVED 1-2

Cynyrchiadau uchel eu proffil yn edrych ymlaen at weithio  yng Nghymru unwaith eto

High profile productions look forward to continue work in Wales

Bydd camerâu’n dechrau ffilmio yng Nghymru unwaith eto, wrth i waith ar gynyrchiadau uchel eu proffil ddechrau, gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru,  wedi cyfnod anodd iawn i’r diwydiant ffilm a theledu ledled y byd.

Roedd y cynyrchiadau yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru yn cynnwys y drydedd gyfres o’r ddrama deledu Keeping Faith / Un Bore Mercher, a gynhyrchir gan Vox Pictures ym Mae Caerdydd. Cafodd y gwaith cynhyrchu ei atal ym mis Mawrth, ond maen nhw’n gobeithio ailddechrau ffilmio yng Nghymru tua diwedd mis Gorffennaf. Dywedodd Adrian Bate o Vox Pictures: “Cafodd y gwaith o ffilmio’r drydedd gyfres o Keeping Faith ei atal yng nghanol y cynhyrchiad ym mis Mawrth, ond rydyn ni’n llawn cyffro ein bod yn gallu ailddechrau ffilmio yng Nghymru ym mis Gorffennaf. Byddwn ni’n dilyn holl ganllawiau’r Llywodraeth, y ddeddfwriaeth a phrotocolau’r diwydiant. Mae’r cast a’r criw yn edrych ymlaen at ailddechrau ar y ffilmio, a bydd yn dda iawn gan ein ffans wybod ein bod yn gobeithio cyflwyno’r gyfres i S4C i’w darlledu yn hwyrach yn 2020, a bydd BBC Wales yn ei darlledu yn gynnar yn 2021.”

Mae Cymru Greadigol wedi cyhoeddi canllawiau i egluro ymhellach y rheoliadau presennol yng Nghymru a sut maen nhw’n effeithio ar y diwydiannau creadigol.

Mae'r canllawiau'n cydnabod, fel rhan o ddull graddol o symud ymlaen, bod gwahanol rannau o'r diwydiannau creadigol wedi cyrraedd gwahanol gyfnodau, a bydd rhai is-sectorau'n cymryd mwy o amser i ailddechrau nag eraill.  Mae ein canllawiau yn adlewyrchu hyn ac yn cyfeirio at adnoddau a gynlluniwyd i gefnogi dychweliad diogel i'r gwaith, yn unol â'r amserlenni hyn. Mae’r canllawiau yn cyfeirio pobl at adnoddau sydd â’r nod o’u helpu i ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel. Mae hon yn ddogfen fyw a fydd yn cael ei diweddaru yn rheolaidd, yn unol ag adolygiadau Llywodraeth Cymru o'r rheoliadau bob 21 diwrnod a datblygiadau yn y diwydiant.

Bydd y gwaith o ffilmio’r drydedd gyfres o ddrama boblogaidd Netflix Sex Education a’r drydedd gyfres o A Discovery of Witches yn ailddechrau yn y misoedd nesaf. Dywedodd Kate Murrell o Eleven Film (Sex Education): “Mae Eleven Film yn edrych ymlaen at ddod yn ôl i Gymru i ffilmio Sex Education 3. Ar ôl ffilmio Cyfres 1 a Chyfres 2 yno, dysgon ni fod Cymru yn lle gwych ar gyfer ein cynhyrchiad. Mae cyfuniad o’r criw lleol sydd ar gael, yr amrywiaeth eang o leoliadau a’r golygfeydd syfrdanol wedi’n denu ni yn ôl i ffilmio cyfres arall”.

Roedd The Pembrokeshire Murders yn un o’r cynyrchiadau ffodus a gafodd ei orffen ychydig cyn i’r cyfyngiadau symud effeithio ar Gymru. Cafodd ei gynhyrchu gan World Productions, ac mae’r prif gymeriad yn cael ei chwarae gan yr actor o Gymru a seren Hollywood Luke Evans. Mae’r ddrama wir-drosedd hon gan ITV yn adrodd y stori o bedair llofruddiaeth heb eu datrys, a chwest un ditectif i sicrhau bod llofrudd yn wynebu’r gyfraith. Cafodd y cyfres gyllid gan Gymru Greadigol. Dywedodd Roderick Seligman o World Productions: “Roedden ni wrth ein boddau’n cael y cyfle i weithio ar The Pembrokeshire Murders a chydweithio gyda Severn ScreenGyda chymorth gan Lywodraeth Cymru roedden ni’n gallu ffilmio’r holl gyfres yng Nghymru, a dangos y bobl fwyaf talentog yng Nghymru ar ddwy ochr y camera. Yn ogystal â’r saith wythnos o ffilmio, cafodd yr holl waith llun a sain ôl-gynhyrchu ei wneud yng Nghymru hefyd, yn Cinematic yng Nghaerdydd.”

 Roedd cynyrchiadau a lwyddodd i ddod i’r amlwg yn ystod y cyfyngiadau symud yn cynnwys Gangs of London gan Sky, gydag un o’r episodau’n cael ei ffilmio yn ne Cymru. Y gyfres oedd yr ail ddrama fwyaf i gael ei lansio gan Sky Atlantic erioed, a chafodd ei chreu gan y cynhyrchydd ffilmiau o Gymru, y mae ei ffilmiau wedi ennill gwobrau, Gareth Evans, a’i bartner creadigol Matt Flannery. Siaradodd Gareth am ffilmio rhannau o’r gyfres yng Nghymru, gan ddweud: “Roeddwn ni wrth fy modd yn gallu gwneud gwaith mor uchelgeisiol ac mor fawr gartref, a dw i’n falch dros ben o’r canlyniad.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth: “Mae’r pandemig  wedi bod yn ergyd drom i’r diwydiannau creadigol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Cymru Greadigol wedi bod yn gweithio’n galed gyda’n rhanddeiliaid i ddeall yr effaith ac i ymateb yn gyflym. Heb os mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i’r diwydiant ffilm byd-eang, gan ddod â chynyrchiadau teledu ledled y byd i stop. Mae Sgrîn Cymru, gwasanaeth Cymru Creadigol sy’n darparu cymorth ymarferol a logisteg ar gyfer cynyrchiadau sy’n cael eu ffilmio yng Nghymru, wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymholiadau yn yr wythnosau diwethaf. Mae hyn yn dangos bod gobaith newydd y bydd y diwydiant yn adfer a mwynhau llwyddiant unwaith eto.”

Nodiadau i olygyddion

Llun:

Luke Evans in The Pembrokeshire Murders © World Productions @warrenorchard

Gangs of London filming in Wales © Sky

Un Bore Mercher © Vox Pictures