English icon English
welsh flag-2

Strategaeth Ryngwladol newydd i Gymru

A new International Strategy for Wales

Heddiw, bydd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol Eluned Morgan yn lansio Strategaeth Ryngwladol gyntaf Cymru a fydd yn hyrwyddo'r wlad fel cenedl eangfrydig sy'n barod i weithio a masnachu gyda gweddill y byd.

Bydd y strategaeth yn datblygu enw rhyngwladol Cymru, sydd eisoes ar dwf, am gynaliadwyedd a chyfrifoldeb byd-eang, ac yn sefydlu cysylltiadau â Chymry sy'n byw ar bob cyfandir. 

Mae'n cael ei lansio wrth i'r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd a negodi perthynas newydd â'r UE a chytundebau masnach â phartneriaid rhyngwladol o amgylch y byd.

Dywedodd Eluned Morgan:

"Nid yw presenoldeb rhyngwladol cryf erioed wedi bod mor berthnasol i Gymru.

"Yn dilyn refferendwm yr UE yn 2016 a'r ansicrwydd parhaus ynglŷn â pherthynas y DU ag Ewrop yn y dyfodol, bydd Cymru yn mynd ati ag awch newydd i gymryd ei lle ar y llwyfan rhyngwladol."

Mae tair uchelgais graidd i'r Strategaeth Ryngwladol dros y pum mlynedd nesaf:

  • Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol
  • Tyfu'r economi drwy gynyddu’n hallforion a denu buddsoddiad o’r tu allan
  • Sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Dyma ddechrau dull gweithredu newydd o ran sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol, gan nodi marchnadoedd byd-eang allweddol Cymru ar ôl Brexit a thynnu sylw at dri sector y mae Cymru yn arweinydd byd ynddynt – seiberddiogelwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd a'r diwydiannau creadigol. Bydd hyn yn cyfleu delwedd ddynamig a bywiog newydd o Gymru fel cenedl fodern, hyderus, uwch-dechnolegol, creadigol a chynaliadwy.

Wrth siarad cyn y lansiad yn Econotherm, cwmni allforio ym Mhen-y-bont ar Ogwr sydd wedi llwyddo i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac a gafodd ei gydnabod yn ddiweddar yng ngwobrau Fast Growth 50 Cymru, dywedodd y Gweinidog:

"Fel Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol cyntaf Cymru, roedd yn bwysig dod â llwyddiannau'r 20 mlynedd diwethaf at ei gilydd a defnyddio'r rhain fel sylfaen i osod y ffordd y bydd Cymru yn gweithio’n rhyngwladol yn y dyfodol. 

“Am genedl fechan, glyfar mae gan Gymru enw sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'w ffiniau. Bydd y strategaeth yn datblygu'r enw hwn ac yn arddangos Cymru fel cenedl a fydd yn adnabyddus am ei chreadigrwydd, ei harbenigedd mewn technoleg a'i hymrwymiad i gynaliadwyedd.”

Bydd y Gweinidog yn ymweld â Brwsel a Paris nes ymlaen yr wythnos hon i hyrwyddo'r strategaeth.