English icon English
Ty Gwyn School JM

Cronfa gwerth £89m yn cefnogi ffyrdd newydd o ddarparu gofal yng Nghymru

£89m fund supporting new ways of delivering care across Wales

Mae cronfa gwerth £89m gan Lywodraeth Cymru yn darparu gofal yn nes at y cartref i bobl o bob oed, gan helpu i leihau'r pwysau ar ysbytai a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dyma oedd neges Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ystod ymweliad ag ysgol yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau, 16 Ionawr).

Yn Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn yn Nhrelai, sy'n cefnogi disgyblion 3-19 oed sydd ag Awtistiaeth a/neu anghenion dwys a chymhleth, amlinellodd y Dirprwy Weinidog sut y mae'r Gronfa Gofal Integredig wedi darparu cymorth i amryw o brosiectau ar draws Cymru.

Cefnogwyd cyfanswm o 563 o brosiectau yn ystod 2018-19 a oedd yn helpu pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor gan gynnwys dementia, gofalwyr, a phobl ag anableddau dysgu.

Mae'r gronfa hefyd yn cefnogi plant ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth, fel y plant yn Ysgol Tŷ Gwyn. Cafodd yr ysgol arian cyfalaf o £175,000 yn 2018/19 tuag at gostau ailwampio a dwy ystafell ddosbarth newydd.

Mae enghreifftiau eraill wedi'u cynnwys yn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Gofal Integredig 2018-19 a gyhoeddwyd heddiw.

Yn 2018-2019, cafodd cyfanswm o £59m o gyllid ei glustnodi ar gyfer 492 o brosiectau refeniw, a £30m ar gyfer 71 o brosiectau cyfalaf.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prosiectau a gwasanaethau sy'n darparu gofal yn nes at y cartref;
  • cynlluniau i atal unigrwydd;
  • datblygu llety i bobl ag anableddau;
  • addasiadau tai i atal codymau;
  • creu cymunedau ac amgylcheddau sy'n deall dementia.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Drwy wneud gwell defnydd o adnoddau a symud oddi wrth ffyrdd traddodiadol o ddarparu gwasanaethau, mae'r Gronfa Gofal Integredig yn cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal i ganolbwyntio mwy ar yr unigolyn ac i gael eu darparu yn y cartref neu'n agosach ato. O ganlyniad, mae hyn yn helpu i leihau'r pwysau ar wasanaethau GIG a gofal cymdeithasol hanfodol.

"Bydd y ffyrdd newydd hyn o weithio yn hanfodol i greu system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru sy'n addas ar gyfer y dyfodol, fel y nodwyd yn Cymru Iachach."

Ychwanegodd y Gweinidog Tai, Julie James:

"Mae'r prosiect yn Ysgol Tŷ Gwyn yn enghraifft wych o sut y mae ein Cronfa Gofal Integredig yn helpu i ddarparu gofal yn nes at gartrefi pobl.

"Y llynedd, buddsoddodd y gronfa £30m mewn cynlluniau cyfalaf, o addasiadau tai i adeiladau mawr newydd a phrosiectau. Ar draws Cymru, mae'r gronfa wedi cefnogi prosiectau sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar i helpu pobl i fyw eu bywydau yn eu ffordd eu hunain."

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd ac aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:

"Mae prosiect Ty'r bont yn enghraifft ardderchog o waith partneriaeth rhwng y gwasanaethau addysg, iechyd a chymdeithasol i ddarparu'r cymorth a'r gofal gorau ar gyfer pobl ifanc ag anghenion cymhleth, y mae eu hangen arnynt wrth adael yr ysgol.

"Mae'r ddarpariaeth well sydd wedi'i datblygu yn Nhŷ Gwyn yn sicrhau bod ganddynt gynllun clir sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol ac sy'n cael ei ddarparu mewn amgylchedd cyfarwydd â gyda staff medrus iawn y maent yn eu hadnabod."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan:

"Gall gadael ysgol fod yn gyfnod o newid sylweddol i unigolion. Trwy ddarparu pontio cydlynol o'r ysgol i fywyd oedolyn ifanc, dan arweiniad pobl ifanc eu hunain a'u teuluoedd, gallwn roi tawelwch meddwl a lleihau'r pryder am y dyfodol.

"Mae Tŷ'r bont wedi'i gydnabod yn ganolfan arfer da cenedlaethol sy'n tystio i'r staff medrus, hyfforddedig a brwdfrydig sy'n gallu darparu cymorth o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y person."

Nodiadau i olygyddion

Gellir gweld Adroddiad Blynyddol y Gronfa Gofal Integredig 2018-19 yma https://llyw.cymru/adroddiad-blynyddol-cronfa-gofal-integredig-cymru-2018-i-2019

Cymru Iachach yw cynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gellir gweld yma https://llyw.cymru/cymru-iachach-cynllun-hirdymor-ar-gyfer-iechyd-gofal-cymdeithasol