English icon English
photo-1539541417736-3d44c90da315-2

Annog y sector cyhoeddus yng Nghymru i gynnig cyfnod absenoldeb â chyflog i ddioddefwyr cam-drin domestig

Public sector in Wales encouraged to offer paid leave for victims of domestic abuse

Mae holl gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu hannog gan Lywodraeth Cymru i gynnig cyfnod absenoldeb â chyflog i'r rheini sy'n dioddef cam-drin domestig.

Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi ysgrifennu at bob gwasanaeth cyhoeddus datganoledig i dynnu sylw at ddatganiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, sy'n cefnogi rhoi cyfnod absenoldeb â chyflog i staff, ar draws y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, sy'n dioddef cam-drin domestig.

Mae'r datganiad yn cydnabod yr effaith ddwys y mae cam-drin domestig yn gallu ei chael, ac mae'n gofyn i gyrff gwasanaethau cyhoeddus datganoledig wneud ymrwymiad penodol yn eu polisïau absenoldeb arbennig neu gam-drin domestig i ddarparu cyfnod absenoldeb â chyflog i staff sy'n dioddef cam-drin domestig. 

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot ymhlith y cyrff cyhoeddus yng Nghymru sydd eisoes wedi cyflwyno cyfnod absenoldeb â chyflog i ddioddefwyr cam-drin domestig, ac mae undebau llafur wedi hyrwyddo'r dull gweithredu hwn ac wedi llunio canllawiau ymarferol fel polisi gweithle y GMB i weithio i atal cam-drin domestig a chanllaw Unsain ar drais a cham-drin domestig.  

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, sy'n cadeirio Cyngor Partneriaeth y Gweithlu:

"Mae llawer o gyrff eisoes yn cynnig cyfnod absenoldeb â chyflog i staff sy'n dioddef cam-drin domestig, ond rydyn ni am annog pob un o gyrff ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ymrwymo'n benodol i ymgorffori'r ddarpariaeth hon o fewn eu polisïau perthnasol. 

"Gyda'ch help chi, fe allwn ni roi sicrwydd i staff sy'n gweithio o fewn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, beth bynnag yw'r problemau eraill maent yn delio â nhw, na fydd ofn colli cyflog a'r heriau ariannol cysylltiedig yn un ohonynt."

Mae'r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, sy'n gyfrifol am bolisi cam-drin domestig o fewn Llywodraeth Cymru, hefyd wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol Cymru yn eu hannog i ddilyn arweiniad Castell-nedd Port Talbot. 

Ychwanegodd:

"Mae pob math o bryderon ymarferol yn gallu dod i ffordd y rheini sy'n goroesi cam-drin domestig, o'r angen am gyngor meddygol, cyfreithiol neu ariannol, i drefnu gofal plant neu rywle arall i fyw.

"Mae darparu cyfnod absenoldeb â chyflog yn rhan hanfodol o gefnogi'r aelodau staff hyn, gan roi tawelwch meddwl iddyn nhw na fyddant yn colli eu cyflog tra'u bod yn rhoi trefn ar eu hamgylchiadau anodd."

Mae datganiad ar y cyd Cyngor Partneriaeth y gweithlu ar absenoldeb â thâl ar gyfer staff sy'n dioddef trais domestig yn datgan:

  • "Mae Cyngor Partneriaeth y gweithlu yn credu bod polisïau o'r fath yn rhoi tawelwch meddwl i oroeswyr, ac yn rhoi sicrwydd hanfodol iddynt na fyddant yn cael eu cosbi'n ariannol wrth iddynt ddelio ag effeithiau cam-drin domestig.
  • "Mae'r CPG yn argymell sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus datganoledig yng Nghymru sy'n ymrwymo i bolisïau yn y gweithle sy'n cynnig agwedd hyblyg a chydymdeimladol tuag at staff sy'n dioddef cam-drin domestig."