English icon English
KK image-4

KK Foods yng Nglannau Dyfrdwy yn ehangu

Deeside-based KK Foods to expand

Mae cwmni mawr sy’n cynhyrchu prydau rhewedig yng Nglannau Dyfrdwy yn bwriadu ehangu ac arallgyfeirio gyda chymorth Llywodraeth Cymru, gan greu 40 o swyddi newydd ychwanegol.

Mae KK Fine Foods wedi'i leoli yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy ac mae'n cyflogi 525 o bobl ar hyn o bryd. Mae'r cwmni yn ehangu ac yn arallgyfeirio ei gyfleuster cynhyrchu i gyflenwi prydau parod wedi'u rhewi yn y sector manwerthu, ar ôl arbenigo yn y sectorau tafarndai a bwytai.

Mae'r cynlluniau i ehangu yn cynnwys uwchsgilio'r gweithlu presennol a chreu 40 o swyddi newydd, yn ogystal â darparu canolfan ddatblygu sydd â'r potensial i gynyddu cyfleoedd i gyflenwyr o Gymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynlluniau ehangu gwerth £5.5 miliwn drwy ddarparu £550,000 o Gronfa Dyfodol yr Economi.

Drwy ehangu, bydd dyfodol KK Fine Foods yng Nglannau Dyfrdwy, sy'n eiddo i gwmni TerBeke o Wlad Belg, yn fwy sicr.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a'r Gogledd, Ken Skates:

"Mae'r cynlluniau i ehangu KK Fine Foods yn newyddion gwych i Lannau Dyfrdwy a'r diwydiant yn ei gyfanrwydd yn y Gogledd. Mae'n gwmni sydd wedi ennill ei blwyf yma ac mae'n braf gweld ei fod yn awyddus i arloesi ac ehangu.

“Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r nod i ehangu ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cwmni yn mynd o nerth i nerth wrth iddo estyn allan i'r sector manwerthu.”

Dywedodd Samir Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr KK Fine Foods:

"Mae cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru yn bwysig iawn inni yn ystod y cyfnod cyffrous hwn o dwf i KK. Bydd ehangu KK yn ei gwneud yn bosibl iddo fodloni gofynion cwsmeriaid presennol a rhai newydd, gan greu dros 40 o swyddi newydd ar gyfer yr ardal leol. Yn ogystal â hynny, bydd yn galluogi KK i barhau i hoelio sylw ar fuddsoddi yn ein gweithwyr, drwy hyfforddi ac uwchsgilio ein gweithlu. Gan fydd y cyllid yn helpu’r busnes i dyfu, bydd hefyd yn helpu'r busnesau hynny sy'n cyflenwi KK i dyfu, ac mae llawer ohonynt hefyd yn rhai o Gymru."