English icon English

Prawf gwaed newydd ar gyfer y coronafeirws

New made-in-Wales blood test for coronavirus

Mae prawf gwrthgyrff newydd sydd wedi’i greu yng Nghymru yn cael ei gyflwyno ledled y DU i ddweud a yw pobl wedi cael y coronafeirws.

Bydd Cymru – a gweddill y DU – yn ehangu’r profion gwaed steil newydd, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u cynhyrchu gan Ortho Clinical Diagnostics (OCD) ym Mhencoed.

Mae’r cwmni yn un o nifer i gynhyrchu’r prawf gwrthgyrff ar gyfer y DU – daeth yn rhan o’r gwaith ar ôl ymateb i gais am weithredu i helpu gyda’r ymateb i’r coronafeirws gan Brif Weinidog Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.   

Heddiw mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi croesawu argaeledd y prawf newydd gan ddweud y bydd Cymru yn penderfynu sut bydd y prawf yn cael ei ehangu, ei flaenoriaethu a’i reoli. Mae disgwyl y bydd ar gael mewn cartrefi gofal.         

Mae grŵp arbenigol yn gweithio ar hyn o bryd ar y strategaeth profion gwrthgyrff ar gyfer Cymru a bydd yn gwneud cyhoeddiad yn fuan. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd: "Mae’r ffaith bod y prawf gwrthgyrff newydd hwn wedi’i gymeradwyo a’i gynhyrchu yn gam pwysig ymlaen yn ein hymdrechion i atal y feirws rhag lledaenu, i ddiogelu'r cyhoedd ac i lacio’r cyfyngiadau symud.

“Bydd y prawf hwn yn dangos i ni a yw pobl wedi cael y coronafeirws eisoes. Ond, er bod y prawf yn gallu dangos a yw rhywun wedi cael y feirws, mae’n bwysig dweud na fyddwn yn gwybod yn sicr faint o imiwnedd sydd ganddo i’r feirws.

“Hefyd rydym yn edrych ar gyflwyno math arall o brawf gwrthgyrff, sy'n gallu rhoi canlyniad mewn munudau. Ynghyd â'r prawf sydd wedi’i gyhoeddi heddiw, bydd hwn yn rhan bwysig o'n strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu i helpu Cymru i ddod allan o’r cyfyngiadau symud. Byddaf yn cyhoeddi cyn hir sut bydd y profion gwrthgyrff hyn yn cyd-fynd â'r strategaeth a phryd byddant ar gael i’n gweithwyr hanfodol ac i’r cyhoedd.”

Mae Ortho wedi datblygu canolfan gweithgynhyrchu ar gyfer profion serolegol yng Nghymru yn ystod y 40 mlynedd ddiwethaf. Mae’n cyflogi mwy na 500 o bobl ar ei safle ym Mhencoed ac yn cynhyrchu miliynau o brofion bob wythnos ar gyfer amrywiaeth eang o glefydau a chyflyrau meddygol ar gyfer eu dosbarthu yn fyd-eang.

Gan weithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd Ortho yn darparu ei brofion Covid-19 sydd wedi’u cynhyrchu ym Mhencoed i gefnogi profi am Covid-19 ledled Cymru. Gall y profion ganfod gwrthgyrff y gellir eu defnyddio i adnabod ymateb imiwnedd.         

Dywedodd Paul Hales, uwch gyfarwyddwr gweithrediadau gydag Ortho: “Rydyn ni wedi creu arbenigedd gweithgynhyrchu manwl yma yng Nghymru dros y blynyddoedd gan alluogi i ni gynhyrchu’r cynhyrchion pwysig yma. Mae’r tîm wedi bod yn gweithio ddydd a nos er mwyn sicrhau màs gynhyrchu ar ein profion Covid-19. Yn Ortho, rydyn ni’n credu bod pob prawf yn fywyd ac yn falch o weld y citiau yma’n cael eu defnyddio yng Nghymru.”

Dywedodd Paul Hackworth, rheolwr gyfarwyddwr Ortho yn y DU: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn chwarae ein rhan yn y strategaeth brofi gyffredinol ar gyfer Cymru. Ni oedd un o’r darparwyr diagnosteg in vitro cyntaf i wynebu’r her unigryw hon ac rydyn ni’n falch y bydd ein profion gwrthgyrff Covid-19 yn darparu ateb hyblyg a dibynadwy i Lywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn gweithredu mor effeithiol â phosib.”

Dywedodd Cari-Anne Quinn, prif weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Mae’r newyddion heddiw’n dangos bod Cymru ar flaen y gad yn y sector gwyddorau bywyd yn rhyngwladol ac yn dangos y rôl mae busnesau Cymru yn ei chwarae yn yr ymdrech i drechu Covid-19 yma yng Nghymru ac ym mhob cwr o’r byd.

“Roedd hanes y cwmni a’i bedigri mewn profi am glefydau heintus yn galluogi i ni ddewis Ortho yn gyflym iawn fel cwmni yng Nghymru sydd â gallu clir i’w osod yn flaenllaw yn rhyngwladol mewn profion gwrthgyrff. Rydyn ni’n falch o hwyluso partneriaeth sydd wedi galluogi i’r profion hanfodol hyn gael eu cymhwyso gan Iechyd Cyhoeddus Cymru er budd pobl Cymru a thu hwnt.”

Dywedodd David Heyburn, pennaeth gweithrediadau ar gyfer microbioleg ac amddiffyn iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae profion gwrthgyrff yn rhan bwysig o’n strategaeth i atal lledaeniad Covid-19 ac i’n helpu ni i ddeall pwy sydd wedi cael y clefyd. Roedd gwybod bod y gwaith o gynhyrchu’r prawf yn lleol i ni yng Nghymru yn hynod bwysig i ni wrth i ni benderfynu pa gyflenwyr i ddibynnu arnynt.”

Ychwanegodd y Gweinidog ar gyfer yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ymateb busnesau ledled Cymru i gefnogi ein hymdrech i ymateb i’r coronafeirws yn parhau’n gwbl nodedig.          

“Mae gwaith Ortho yn cynhyrchu’r profion gwrthgyrff hanfodol hyn yn eu cyfleuster ym Mhencoed yn dangos yn glir allu arloesol a chyfoeth arbenigedd y cwmni.   

“Fe hoffwn i ddiolch i Ortho, ei weithwyr a’r holl bartneriaid cysylltiedig am eu hymrwymiad a’u hymdrech i ddarparu’r cynhyrchion hanfodol hyn yma yng Nghymru.”

Yn ychwanegol at y prawf gwrthgyrff, a fydd ar gael gan Ortho a chyflenwyr eraill yn y DU, mae gwaith yn parhau yng Nghymru i ddatblygu math arall o brawf gwrthgyrff, sy’n cynnwys tynnu dafn o waed o’r corff gyda blaen pin ac wedyn profi’r gwaed gyda dyfais i roi canlyniad mewn munudau. Byddai’r prawf yma’n llawer mwy hygyrch ac yn helpu i sicrhau bod profion gwrthgyrff ar gael yn ehangach.