English icon English

'Peidiwch ag aros os oes gennych broblem mewn perthynas â thai – mynnwch help nawr ' medd Julie James

‘Don’t wait if you have a housing problem – get help now’ says Julie James

Wrth i ymgyrch ddigidol newydd Llywodraeth Cymru ar gyngor ynghylch tai yn ystod Covid-19 ddechrau, mae'r Gweinidog Tai, Julie James, wedi galw ar bobl Cymru i ofyn am gymorth nawr os ydynt yn cael problemau'n ymwneud â thai.

Wrth i ymgyrch ddigidol newydd Llywodraeth Cymru ar gyngor ynghylch tai yn ystod Covid-19 ddechrau, mae'r Gweinidog Tai, Julie James, wedi galw ar bobl Cymru i ofyn am gymorth nawr os ydynt yn cael problemau'n ymwneud â thai.

Bydd yr ymgyrch, a ddatblygwyd gyda Shelter Cymru, yn cyfeirio pobl at wefan Llywodraeth Cymru lle byddant yn gallu cael gafael ar gyngor sy'n ymwneud â gwahanol faterion ynghylch tai.

Nod yr ymgyrch yw rhoi gwybodaeth a sicrwydd i bobl bod cymorth a chefnogaeth ar gael, a'i gwneud yn haws iddynt gael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth honno, yn enwedig gan na fydd llawer ohonynt wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen.

Mae Shelter Cymru wedi dweud bod y galw am eu cymorth ar-lein byw a'u llinell gymorth dros y ffôn wedi mwy na dyblu yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Ar sail adborth gan Shelter Cymru a sefydliadau tai a digartrefedd eraill yng Nghymru, mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar bum pryder cyffredin:

  • Ei chael yn anodd talu rhent neu forgais
  • Poeni am gael eu troi allan
  • Cael gwneud atgyweiriadau i gartref ar rent
  • Cael lle diogel neu addas i aros
  • Hunanynysu mewn llety sy’n cael ei rannu

Bydd gwefan Llywodraeth Cymru yn nodi beth y gall pobl ei wneud am y problemau hyn ac yn eu cyfeirio at gymorth pellach gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth, Crisis, Shelter Cymru a darparwyr arbenigol fel Llamau. Bydd y wefan hefyd yn cyfeirio pobl at Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, lle y bo'n briodol, i gael rhagor o wybodaeth am fudd-daliadau.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgyrch gyda Shelter Cymru a Llamau ynghylch digartrefedd cudd ac effaith y coronafeirws. Mae hon wedi'i hanelu'n bennaf, ond nid yn llwyr, at bobl ifanc sydd efallai wedi bod yn cysgu ar soffa ffrind neu'n aros rhywle dros dro fel hostel, lloches nos neu lety gwely a brecwast.

Wrth gyhoeddi dechrau'r ymgyrch, dywedodd y Gweinidog Tai Julie James: "Mae llawer o bobl mewn sefyllfa lle maen nhw'n ei chael hi'n anodd talu biliau neu’n ofni cael eu troi allan am y tro cyntaf erioed - ein neges ni i bobl yw ‘Mynnwch gymorth nawr’.

“Mae a wnelo'r ymgyrch hon â sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau a’u hiawnderau a'u bod yn gallu manteisio ar y cymorth a'r cyngor sydd ar gael gan y sefydliadau a'r elusennau yr ydym yn gweithio gyda nhw'n rheolaidd.

"Rydym wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau bod y pryderon y maent yn clywed amdanynt amlaf yn cael eu hadlewyrchu yn yr ymgyrch fel bod pobl yn deall nad ydynt ar eu pen eu hunain a bod help ar gael. Byddwn yn parhau i wrando arnynt ac i addasu wrth i'r ymgyrch hon fynd rhagddi."

Dywedodd John Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyfleu'r neges bod help ar gael. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn poeni am eu sefyllfa o ran llety ac nid ydynt yn gwybod at bwy i droi. Mae'n dda bod Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn flaenoriaeth i gynyddu ymwybyddiaeth o’n gwasanaeth ni, yn ogystal â gwasanaethau eraill a all helpu pobl yn ystod yr argyfwng hwn.”

Dywedodd Rebecca Woolley, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru,

"Mae ein hymgynghorwyr yn Cyngor ar Bopeth Cymru wedi gweld dros 19,000 o bobl ers cychwyn y cyfnod clo. Rydyn ni'n gwybod nad yw pobl yn gwybod sut i gael gafael ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo, yn aml iawn. Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru yn creu'r ymgyrch hon sy'n ceisio rhoi gwybodaeth a sicrwydd i bobl am y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael, a dod â’r holl wybodaeth at ei gilydd mewn un lle."

Astudiaeth achos

Nod yr ymgyrch yw helpu pobl fel Marie sy'n byw yn Sir y Fflint gyda'i chwe phlentyn.

Eglurodd Marie: "Dw i wedi byw yn fy nhŷ ers dros 6 mlynedd a dydw i erioed wedi methu taliad. Ddeuddydd cyn cyhoeddi'r cyfyngiadau, rhoddodd asiant fy landlord rybudd o wyth wythnos i mi adael, gan fod y landlord eisiau byw yma ei hun.

"Wedyn dechreuodd y cyfnod clo, a doeddwn i ddim yn gallu mynd allan i chwilio am dŷ newydd gan fod yn rhaid i mi addysgu fy mhlant gartref a gofalu amdanyn nhw. Ro’n i'n poeni'n ofnadwy am y dyfodol ac yn flin gyda fy landlord a'r asiant. Dw i wedi talu dros £50,000 mewn rhent dros y blynyddoedd ond ar waethaf hynny, mi wnaethon nhw fynd ati i roi rhybudd i mi ar yr adeg waethaf bosibl. Mi wnes i gysylltu â'r Cyngor ac awgrymwyd fy mod yn cysylltu â Shelter Cymru am gyngor.

"Cefais fy rhoi drwodd at Gemma. Mae hi wedi bod yn wych. Oni bai amdani hi, fyddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud, a byddwn yn teimlo mor bryderus. Dywedodd Gemma wrthyf fi fod deddfwriaeth Llywodraeth Cymru wedi atal gweithrediadau troi allan dros dro felly does dim angen i mi ddod o hyd i gartref newydd ar unwaith. Mae'r asiant wedi bod yn anfon negeseuon e-bost ataf, yn rhoi pwysau arnaf i adael ond dw i’n eu hanfon i gyd at Gemma ac mae hi'n tawelu fy meddwl ac yn dweud bod rhaid iddo dilyn y prosesau cywir.

"Mae gwybod fy hawliau wedi rhoi'r hyder i mi i beidio â rhoi i mewn iddo fo. Byddaf yn gadael, ond ddim tan ei bod yn ddiogel i mi ddod o hyd i gartref newydd i fy mhlant a minnau."