English icon English

Gall pobl sy’n gwarchod eu hunain gyfarfod eraill ac ymarfer yn yr awyr agored

Shielding people can meet others and exercise outdoors

Mae newidiadau i’r cyngor ar gyfer pobl sy’n gwarchod eu hunain rhag y coronafeirws yn cael eu cyflwyno o ddydd Llun 1 Mehefin ymlaen, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething heddiw.    

Gall pobl sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain ymarfer yn yr awyr agored yn awr a chyfarfod pobl o gartref arall, ar yr amod bod hyn yn digwydd yn yr awyr agored.                    

Mae dau newid i’r cyngor ar gyfer y grŵp hwn:

  • Nid oes cyfyngiadau ar ymarfer yn yr awyr agored, ar yr amod bod unigolion yn cadw’n llym at reolau cadw pellter cymdeithasol ac arferion hylendid.
  • Gall y rhai sy’n gwarchod eu hunain gyfarfod yn yr awyr agored â phobl o gartref arall – ond ni ddylent fynd i mewn i dŷ person arall na rhannu bwyd gyda hwy.        

Nid oes unrhyw newidiadau eraill yn cael eu gwneud i’r cyngor ar gyfer y rhai sy’n gwarchod eu hunain yn y cam hwn. Dylai pobl sy’n gwarchod eu hunain barhau i ddilyn yr holl gyngor arall sydd wedi’i roi’n flaenorol. Ni ddylent fynd i siopa na mynychu gwaith y tu allan i’w cartref. Dylent barhau i sicrhau bod bwyd a meddyginiaeth yn cael eu dosbarthu iddynt.           

Mae’r cyngor hwn yn dod gan Brif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton, a ddywedodd:

“Does dim posibl dileu’r risg yn llwyr fyth ond rydyn ni’n cynghori’r rhai sy’n gwarchod eu hunain i ymarfer ar amseroedd llai prysur, fel bod y risg o gyswllt ag eraill yn is.             

“Rydyn ni wedi cynghori pawb yng Nghymru i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr a chadw at arferion hylendid da wrth gyfarfod yn yr awyr agored. I’r rhai sy’n gwarchod eu hunain, mae cadw’n llym at y rheolau yma’n hanfodol.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Rydw i’n falch bod cymaint o bobl wedi bod yn gwarchod eu hunain mor ofalus – gan nid yn unig warchod eu hunain ond hefyd helpu i warchod ein GIG. Rydyn ni’n deall bod y misoedd diwethaf yma wedi bod yn heriol iawn, heb fawr ddim cyswllt wyneb yn wyneb ag eraill.     

“Rydw i’n eithriadol falch o bawb sydd wedi ac sy’n parhau i ddarparu’r gefnogaeth hanfodol yma i alluogi pobl i warchod eu hunain. Mae ein partneriaid ni yn yr Awdurdodau Lleol ac mewn fferyllfeydd, gwirfoddolwyr a manwerthwyr bwyd ar raddfa fawr wedi tynnu at ei gilydd i gyd i sicrhau bod gwarchod yn bosibl.”

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn parhau i ddatblygu ei gyngor ar gyfer pobl sy’n gwarchod eu hunain ar ôl 15 Mehefin. Bydd pawb sy’n gwarchod eu hunain yn cael llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol yn ystod y pythefnos nesaf yn datgan y camau newydd.