English icon English
ERF - W

Ni fydd Cronfa Cadernid Economaidd Cymru yn cefnogi pobl sy’n ceisio osgoi treth

Wales’ Economic Resilience Fund will not support tax avoiders

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi heddiw na fydd modd i fusnesau y mae eu pencadlysoedd wedi’u lleoli mewn ‘hafanau treth’ fanteisio ar gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt.

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Ken Skates heddiw na fydd busnesau sy’n eiddo i gwmni neu unigolyn sy’n byw mewn hafan gwbl ddi-dreth yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol gan Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.   

Bydd y newid hwn y natal nifer bach o sefydliadau mawr rhag manteisio ar y Gronfa Cadernid Economaidd.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Er gwaethaf y ffaith bod ein hadnoddau’n gyfyngedig ac o dan bwysau rydym wedi creu’r pecyn cymorth i fusnesau sy’n cynrychioli’r pecyn mwyaf hael o fewn y DU. Mae’n gwbl briodol ein bod yn sicrhau na all busnesau nad ydynt yn cyfrannu taliadau treth tuag at ein heconomi fanteisio ar y cynllun hwn.”

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Ken Skates:

“Rydym yn wynebu’r argyfwng gwaethaf ers blynyddoedd maith a bydd ceisio gorchfygu’r goblygiadau economaidd a’r goblygiadau iechyd yn creu baich ariannol sylweddol. Rwy’n credu’n gryf na ddylai busnesau nad ydynt yn talu unrhyw dreth elwa ar yr ymyriadau yr ydym wedi’u cyflwyno er mwyn ceisio diogelu ein heconomi.”

“Mae’r penderfyniad hwn yw un o’r camau pwysig y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn creu gwell economi a gwell cymdeithas yng Nghymru.”