English icon English

Cyhoeddi Cynllun Diogelu'r Gaeaf i Gymru

Winter Protection Plan for Wales to be published

Heddiw, bydd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn cyhoeddi'r Cynllun Diogelu'r Gaeaf, yn amlinellu'r paratoadau sy'n cael eu gwneud gan y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol ar gyfer y gaeaf hwn.

Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar ymateb i Covid-19, gan gynnwys capasiti gwelyau ychwanegol, newid y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu, ehangu'r rhaglen brechu rhag y ffliw a'r rôl y gall y cyhoedd ei chwarae i helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

Nodiadau i olygyddion

Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad i'r Senedd am y Cynllun Diogelu'r Gaeaf ddydd Mawrth 15 Medi. Bydd mwy o fanylion ar gael bryd hynny.