English icon English

Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, ar yr ystadegau diweddaraf am y Farchnad Lafur

Minister for Economy, Transport and North Wales, Ken Skates on the latest Labour Market Statistics

Wrth gynnig sylwadau ar Ystadegau Diweddaraf y Farchnad Lafur, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Rydym yn gwybod bod y Coronafeirws yn cael effaith wirioneddol ar ein heconomi ac yn golygu heriau digynsail i’n cymuned fusnes, ond mae’n dda gweld bod cyfradd ddiweithdra Cymru yn parhau i fod yn is na chyfradd y DU.

“Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau i wneud popeth y gallwn i gefnogi cwmnïau a gweithwyr ledled Cymru, ac mae ein pecyn gwerth £1.7 biliwn o gymorth busnes wedi bod yn hollbwysig i’r ymdrech honno. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod ein Cronfa Cadernid Economaidd bellach wedi helpu i ddiogelu dros 100,000 o swyddi a allai fel arall fod wedi eu colli o ganlyniad i’r pandemig, ac mae wedi darparu bron £300 miliwn o gymorth ariannnol i 13,000 o fusnesau yn ystod y cyfnod yr oeddent ei angen fwyaf.

“Mae hwn yn gyfnod anodd iawn, ond bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi busnesau, gweithwyr a’r rhai hynny sy’n chwilio am waith, hyfforddiant neu am ddechrau eu busnes eu hunain. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn chwarae ei rhan a’n bod yn parhau i’w hannog i ymestyn y cynllun ffyrlo hanfodol i warchod swyddi a bywoliaeth pobl.”