English icon English
bumpy-2

Cyllid brys yn sbardun amserol i gwmnïau creadigol yng Nghymru

Emergency funding provides timely spark for Welsh creative companies

Mae Cronfeydd Datblygu Digidol Brys a Chronfeydd Teledu Brys Cymru Greadigol eisoes yn sicrhau manteision gwirioneddol i gwmnïau o Gymru. 

Mewn ymateb i effaith y coronafeirws ar y sector diwydiannau creadigol, lansiodd Cymru Greadigol ddwy gronfa i gefnogi’r sectorau teledu a digidol i helpu cwmnïau o fewn y sector diwydiannau creadigol drwy’r argyfwng a’u cynorthwyo i lwyddo yn y dyfodol. 

Meddai yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: 

“Mae’r diwydiannau credigol wedi bod yn un o’r rhannau o economi Cymru sydd wedi tyfu gyflymaf ers sawl blwyddyn.  Nid dim ond swyddi a chyfoeth mae’r sector yn ei greu – mae’n cyfrannu at frand cenedlaethol cryf ac yn helpu i hyrwyddo Cymru a’i diwylliant a’i doniau i’r byd. 

“Mae cymdeithas greadigol yn ei hystyr ehangaf yn hyrwyddo llesiant a chymdeithas fwy cynhwysol.  Rwy’n falch iawn o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru a Chymru Greadigol wedi defnyddio’r cymorth mor gyflym er lles cynifer o gwmnïau a ‘Wnaed yng Ngymru’.” 

Mae cyfanswm o 21 o gwmnïau cynhyrchu o Gymru wedi cael cynnig £302,046 drwy y Gronfa Datblygu Teledu Brys.

Mae’r cwmnïau sy’n cael eu cynorthwyo yn cynnwys Joio, o Gastell-nedd, Awen Media o Gaernarfon, Darlun Cyf o Fangor, Avanti Media Group, Boom Cymru TV Ltd, Little Bird Films a Martha Stone i gyd o Gaerdydd.    Mae amrywiol brosiectau wedi’u cefnogi, yn cynnwys prosiectau gyda a heb sgriptiau, gan gynnwys drama, rhaglenni ffeithiol ac adloniant ffeithiol a chomedi.   

Meddai Paul Islwyn Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Wildflame Productions:

“Mae Wildflame yn falch iawn o gyhoeddi, yn dilyn y gwaith caled sydd wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf, wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, eu bod wedi sicrhau cytundeb buddsoddi a chaffael gan Discovery Science i ddarparu rhaglen ddogfen ffeithiol ddwy awr o dan y teitl ‘Secrets of the Chariot Grave’ . Bydd y rhaglen hon, wedi’i chomisiynu’n wreiddiol gan S4C, bellach yn cael ei darlledu yng Nghymru ar S4C, yn yr UDA a hefyd yn cael ei dosbarthu’n rhyngwladol i gynulleidfaoedd byd-eang.  Bydd y cyfle cyffrous hwn yn gwella ein proffil o fewn y farchnad ryngwladol, ac roedd cymorth y Grofa Datblygu Teledu Brys yn allweddol i wneud i hyn ddigwydd yn ystod cyfnod y pandemig”. 

Mae Bumpybox yn gwmni animeiddio o Gaerdydd.  Meddai Sam Wright, un o’r syflaenwyr:

“Daeth cyllid y Gronfa Datblygu Teledu Brys ar gyfnod pan oeddem ei angen fwyaf.  Cafodd y cyfyngiadau symud effaith fawr ar fusnesau.  Roeddem wedi cyflogi rhai aelodau staff newydd i helpu gyda gwaith datblygu, fu raid inni ei oedi wedyn.  Hefyd, bu rhaid inni ganslo y dyddiad dechrau ym mis Mai ar gyfer cyfres newydd yn ein sioe My Petsaurus, ac roedd posibilrwydd gwirioneddol o orfod diswyddo nifer o’n staff.  Yn ogystal â helpu inni ddod dros y pandemig, roedd y gronfa yn rhoi cyfle inni gadw ein staff drwy weithio drwy’r cyfyngiadau symud ar rai prosiectau diddorol newydd a chreu dyfodol drwy ddatblygu cyfres newydd i’w chynnig.” 

Meddai Robert Corcoran, sylfaenydd 73 Degree Films o Wrecsam: 

“Mae’r cymorth gan Cymru Greadigol wedi bod  yn rhagorol, oedd yn hanfodol yn ystod y cyfnod hwn, ac ar yr un pryd yn caniatáu inni ddatblygu ein cyfres gomedi 'Wales: In Colour'. Rydym yn credu y bydd y prosiect yn cael ei ddarlledu a phosibilrwydd enfawr o ddatblygu doniau Cymreig o ardal sydd heb lawer o gynrychiolaeth.  Mae’r sioe yn wahanol i unrhyw beth rydyn ni wedi ei weld o Gymru o’r blaen, ac mae’n gyffrous iawn i allu ei datblygu ymhellach gyda chymorth Cymru Greadigol.”

Trwy y gronfa Datblygu Digidol Brys, cynigiodd Cymru Greadigol dros £560 mil i 26 o gwmnïau ledled Cymru gan gynnwys Goldborough Studio yn Sir Benfro, When It Rains Creative ym Mhorthaethwy a 4Pi Productions yng Nghaerdydd

Meddai William Morris-Julien, Cyfarwyddwr Creadigol yn y ganolfan creu gemau a datblygiadau gweledol yn Abertawe, Goldborough Studio:

"Mae’r grant gan Cymru Greadigol wedi ateb ein problemau.  Mewn gwirionedd, allai ddim wedi dod ar amser gwell.  Mae wedi sicrhau swyddi, wedi caniatáu inni greu ein gwaith gorau ac wedi ein galluogi i ganolbwyntio ar wneud ein gorau wrth gyflwyno i gyhoeddwyr a phlatfformau.”