English icon English

AMRC Cymru i gael cyfleuster cynaliadwyedd pecynnu bwyd newydd gwerth £2 miliwn

New £2m sustainable food packaging hub set for AMRC Cymru in Broughton

Mae cyfleuster cynaliadwyedd pecynnu bwyd newydd yn cael ei sefydlu yng Nghanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC Cymru) ym Mrychdyn, diolch i fuddsoddiad ariannol gan Lywodraeth Cymru.  

Mae AMRC Cymru, canolfan ymchwil a datblygu Llywodraeth Cymru, a gostiodd £20 miliwn, yng ngogledd Cymru, wedi sicrhau cyllid BITES (y Cynllun Cyflymu Busnes, Arloesi a Thwristiaeth) i ddatblygu cyfleuster i arddangos technoleg sy’n dod i’r amlwg, yn benodol ar gyfer sector bwyd a diod Cymru, a fydd yn cyflymu’r broses o fabwysiadu datrysiadau gwyrdd arloesol sy’n lleihau gwastraff drwy integreiddio technolegau Diwydiant 4.0 yn y diwydiant pecynnu.  

Bydd y cyfleuster cynaliadwyedd yn ganolfan ar gyfer mabwysiadu technolegau sy’n dod i’r amlwg yng nghadwyn gyflenwi’r sector pecynnu bwyd a diod. Ei nod fydd arwain y sector wrth fabwysiadu datrysiadau gwyrdd arloesol sy’n lleihau gwastraff, yn cynyddu cynhyrchiant ac yn lleihau effaith deunyddiau yn ystod eu cylch bywyd.  

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Ein huchelgais yw codi proffil Cymru yn rhyngwladol a marchnata ein datrysiadau arloesi ym maes bwyd a diod o ansawdd i weddill y byd. Rwy’n credu bod y datrysiadau arloesol rydym yn eu harchwilio yn AMRC Cymru yn gallu darparu amrediad o fesurau i sicrhau bod y diwydiant yng Nghymru yn barod ar gyfer y dyfodol.

“Hoffen ni weld y diwydiant pecynnu bwyd a diod yn lleihau faint mae’n dibynnu ar waith llaw a chynyddu lefel y sgiliau yn y sector, ac mae gennyn ni ddiddordeb mawr mewn archwilio prosesau arloesol. Bydd hyn yn symud y diwydiant yn ei flaen mewn cyfnod newydd o dwf gwyrdd yn economi Cymru, ac mae’n hanfodol bod y sector yn ymateb i’r cyfleoedd hyn sy’n cynnig llawer o botensial. Dim ond drwy ddatblygu prosesau newydd ac ymgorffori technolegau newydd i ailgylchu a lleihau’r plastigion untro sy’n cael eu defnyddio y gellir gwneud hyn.”

Bydd y cyfleuster yn arddangos galluoedd AMRC Cymru ym maes awtomeiddio uwch, robotau cydweithiol, gweithgynhyrchu haen-ar-haen a delweddu. Bydd hefyd offer ar gyfer gwneud prototeipiau a phrofi datrysiadau a syniadau newydd.

Bydd y cyllid o £2 miliwn yn cael ei ddefnyddio mewn dau faes allweddol yn AMRC Cymru. Y cyntaf yw datblygu cyfleuster sy’n arddangos technoleg sy’n dod i’r amlwg sy’n cynnwys system modiwlaidd y gellir ei hailffurfweddu ar gyfer treialu prototeipiau o brosesau gweithgynhyrchu, a’r ail yw offer seilwaith sy’n ategu cynnydd dyluniadau, deunyddiau a phrosesau newydd wrth iddynt gael eu datblygu

Dywedodd Bobby Manesh, Arweinydd Technegol AMRC Cymru ar gyfer Bwyd a Diod: “Mae’r technolegau hyn yn cael eu defnyddio’n helaeth mewn diwydiannau eraill, ond dydyn nhw ddim yn bodoli yn y sector bwyd a diod, mewn gwirionedd. Rydyn ni’n wynebu heriau newydd. Mae cwmnïau pecynnu bwyd a diod yn gweithio mewn amgylchedd cyflymder uchel, cost isel, a bydd yr arddangosydd yn dangos sut y gellir rhoi’r technolegau hyn ar waith mewn systemau gweithgynhyrchu gwahanol.

“Bydd gan y cyfleuster arddangosydd canolog yn seiliedig ar system gludfelt, a fydd yn cael ei chysylltu â robotau cydweithiol, cerbydau dan reolaeth awtomatig a’n peirianwyr ein hunain yn gwisgo sgerbydau allanol. Bydd popeth yn cael ei ddelweddu a’i dracio drwy gamerâu, felly bydd gennyn ni gopi digidol o’r broses y gellir ei wylio mewn amser real.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau AMRC Cymru, Jason Murphy: “Yn anffodus mae addasu ein cyfleuster i gynhyrchu peiriannu anadlu wedi oedi’r gwaith o gwblhau’r Cyfleuster Cynaliadwyedd Pecynnu Bwyd a Diod. Fodd bynnag, mae’r oedi hwnnw wedi rhoi amser inni i fodelu’r arddangosydd yn rhithwir ac ystyried y ffordd orau o’i roi ar waith i sicrhau y gall busnesau bach a chanolig sy’n ymweld fanteisio i’r eithaf arno.

“Gobeithio bydd hyn yn un o’n cryfderau allweddol ni yn AMRC Cymru, a bydd pob un o’n peirianwyr yma ym Mrychdyn yn gweithio ar agweddau ar yr arddangosydd. Yn ddelfrydol hoffen ni wahodd ymwelwyr i’w weld rywbryd yn 2021.”

Mae’r diwydiant bwyd a diod yn un o sêr dyfodol economi Cymru, ac yn 2014 datganodd y Cynllun Gweithredu ar Fwyd a Diod darged uchelgeisiol i gynyddu trosiant y sector i £7 biliwn (bwyd a ffermio) erbyn 2020. Cyrhaeddwyd y targed yn hawdd, gyda’r trosiant uchaf erioed o £7.47 biliwn erbyn diwedd 2019. Yn ôl y ffigurau diweddaraf mae holl gadwyn gyflenwi’r sector bwyd a diod yng Nghymru yn cyflogi 229,500 o bobl, ac mae’r trosiant blynyddol dros £22.1 biliwn.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae gan ogledd Cymru y galluoedd gweithrediadol i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a chyflawni ac ysgogi arloesi yn y sector bwyd a diod.

“Bydd sicrhau bod y Cyfleuster Cynaliadwyedd Pecynnu Bwyd a Diod yn llwyddiant yn creu economi fwy cadarn yng Nghymru sy’n helpu i ddatblygu cwmnïau sy’n broffidiol a chynaliadwy.

“Mae’r cyfleusterau yn AMRC Cymru ym Mrychdyn o’r radd flaenaf, a byddan nhw’n allweddol wrth ddatblygu datrysiadau technolegol a fydd yn gwella cystadleurwydd cwmnïau o Gymru yn fyd-eang, drwy atgyfnerthu enw da ein sector bwyd a diod fel un o’r gorau yn y byd.”