English icon English

Hwb ar gyfer cynlluniau newydd yng Nghymru i gynhesu cartrefi a busnesau drwy rwydweithiau gwres canol dinas.

Kick-start for new Welsh schemes to heat homes and businesses using city centre heat networks.

  • Prosiectau rhwydwaith gwres newydd ar gyfer Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr
  • Benthyciad di-log gwerth £8.6 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cyngor Caerdydd i gefnogi Prosiect Bae Caerdydd

Cadarnhawyd y bydd Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr yn gartref i brosiectau rhwydwaith gwres newydd yng Nghymru, a fydd yn helpu i gynhesu cartrefi gan ddefnyddio gwres dros ben a gynhyrchir ar safleoedd diwydiannol. 

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, wedi cymeradwyo cyllid gwerth £8.6 miliwn ar gyfer Rhwydwaith Gwres Caerdydd, y rhwydwaith gwres mawr cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Bydd y benthyciad di-log yn darparu dros hanner y cyllid sydd ei angen ar Gyngor Caerdydd i ddatblygu cam un o Rwydwaith Gwres Dinas Caerdydd, a fydd yn defnyddio pibellau o dan y ddaear i gludo gwres gwastraff o Gyfleuster Adennill Ynni Viridor i adeiladau ym Mae Caerdydd a’i gyffiniau. 

Y nod strategol yw ehangu’r rhwydwaith i ganol y ddinas yng nghamau’r dyfodol. Mae telerau’r benthyciad gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cymhellion i ehangu’r rhwydwaith i gyflawni’r nod strategol a datgarboneiddio gwres yng Nghaerdydd ymhellach.

Mae cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r rhwydwaith gwres yn gam bach ond pwysig yn y broses o ddatgarboneiddio gwres yn ardaloedd trefol Cymru, ac mae’n cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru ddigarbon erbyn 2050.

Bydd defnyddio’r gwres o’r Cyfleuster Adennill Ynni presennol, sy’n ailgyfeirio tunellau o wastraff gweddilliol o safleoedd tirlenwi bob dydd, yn lleihau’r ddibyniaeth ar ffurfiau carbon uwch o wres ac yn atal miloedd o dunellau o garbon bob blwyddyn. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Caerdydd ers 2017 i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r prosiect. Disgwylir i Gam 1 ddechrau gweithredu yn 2022.

Yn ogystal â’r benthyciad gan Lywodraeth Cymru, mae cam cyntaf y gwaith hefyd yn cael ei ategu gan grant adeiladu gwerth £6.6 miliwn gan Lywodraeth y DU, drwy’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).

Mae BEIS hefyd wedi cadarnhau heddiw gyllid ar gyfer Rhwydwaith Gwres Pen-y-bont ar Ogwr, sydd hefyd wedi derbyn cymorth gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a’r Energy Systems Catapult, gan helpu i ddatblygu systemau smart a strategaeth gwres Pen-y-bont ar Ogwr. 

Cyfeirir at rwydweithiau gwres hefyd fel cynhesu rhanbarthol. Maent yn dosbarthu gwres mewn pibellau dŵr o ffynhonnell ganolog, a gallant ddefnyddio’r gwres gwastraff a gynhyrchir ar safleoedd diwydiannol drwy ei ddosbarthu i ddefnyddwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi nifer o ardaloedd â blaenoriaeth yng Nghymru, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd. 

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae’n dda iawn gen i gyhoeddi ein bod wedi cadarnhau’r cyllid ar gyfer cam cyntaf Rhwydwaith Gwres Dinas Caerdydd.

“Wrth inni barhau ar ein taith i leihau allyriadau carbon ledled Cymru, un o’r problemau allweddol rydyn ni wedi’i hwynebu yw datgarboneiddio gwres, Rydyn ni’n gallu mynd i’r afael â’r broblem hon drwy wneud ein hadeiladau’n fwy effeithlon o ran ynni a hefyd drwy newid ffynhonnell y gwres. Yn hyn o beth mae defnyddio gwres gwastraff yng nghanol trefi a dinasoedd yn bwysig iawn.

“Bydd rhwydweithiau gwres fel y rhain yn helpu perchnogion cartrefu a busnesau i leihau eu biliau ynni – ond bydd hefyd yn ein helpu ni i gyflawni ein nod o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.”

Ychwanegodd y Gweinidog: “Dim ond dau ymhlith nifer o brosiectau rydyn ni’n hapus i’w cefnogi drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yw’r rhain, i wneud yn siŵr bod gan gartrefi a busnesau fynediad at wres glân a fforddiadwy.”

Dywedodd y Cyng. Michael Michael, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Strydoedd Glân a’r Amgylchedd:  "Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gaerdydd ddatblygu seilwaith ynni carbon isel newydd, wedi’i bweru gan gyfleuster sydd eisoes yn y ddinas.

“Yn ôl y dadansoddiadau, pe bai’r holl wres sydd ar gael gan y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio, gallen ni atal 5,600 tunnell o garbon bob blwyddyn, a byddai’r cwsmeriaid sydd wedi cofrestru gyda’r rhwydwaith yn lleihau eu costau ynni presennol 5% ar gyfartaledd.

“Mae’r achos busnes yn dangos bod cam cyntaf y rhwydwaith yn ariannol hyfyw, a hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru a’r Llywodraeth ganolog am eu cymorth ariannol gyda’r prosiect hwn.”

Mae dechrau’r gwaith ar y rhwydweithiau gwres yn cyd-fynd ag ymrwymiadau amgylcheddol Llywodraeth Cymru i’r wlad ddefnyddio llai o danwydd ffosil ac i leihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr eraill.

Mae’r ymrwymiadau hyn yn cynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 80% o leiaf erbyn 2050. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu ei huchelgais ar gyfer datgarboneiddio, a bydd yn rheoleiddio er mwyn lleihau allyriadau carbon 95% o leiaf erbyn 2050, o’u cymharu â llinell sylfaen 1990.  

DIWEDD